Mae ‘talu wrth fynd’ bellach ar gael pan fyddwch chi'n teithio rhwng Caerdydd Canolog, Casnewydd a Phont-y-clun gyda Trafnidiaeth Cymru.

Teithiwch yn ddidrafferth gyda'r hyder eich bod yn cael y pris gorau. Tynnwch y straen allan o deithio ar drên heb orfod ciwio wrth beiriannau tocynnau na chwilota am docynnau papur. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw tapio i mewn ar ddechrau eich taith a thapio allan pan fyddwch chi'n cyrraedd pen eich taith.

Pan fyddwch chi’n ei ddefnyddio am y tro cyntaf, tapiwch eich cerdyn banc digyswllt ar y darllenydd cardiau melyn ar blatfformau neu gatiau talu wrth fynd yng Nghaerdydd Canolog a Chasnewydd, a’r darllenydd cardiau ar y platfformau ym Mhont-y-clun, a chofiwch dapio ar ddiwedd pob taith i osgoi talu costau ychwanegol.

Gyda chapiau dyddiol ac wythnosol ar brisiau, ni fyddwch byth yn talu mwy na’r cap cymwys am y daith rydych wedi’i gwneud. Felly, gallwch eistedd yn ôl, ymlacio a mwynhau eich taith gan wybod eich bod yn cael y gwerth gorau posib.

I ddechrau arni, cofrestrwch eich cerdyn ar ap Trafnidiaeth Cymru. Agorwch yr ap, cliciwch ar yr eicon ‘talu wrth fynd’ i ychwanegu manylion eich cerdyn digyswllt, yna uwchlwythwch a chadarnhewch eich manylion i ddechrau teithio. Neu, os oes gwell gennych, gallwch deithio fel gwestai.

Am fwy o wybodaeth ac amodau a thelerau, ewch i https://trc.cymru/talu-wrth-fynd >.